THE DETAILS:
Apply Now (CY)
- Location: Rhondda Cynon Taf,
- Hours: Full time
- Contract: Permanent
- Salary Type: Not Supplied
- Salary: L18 £79,288 i L24 £91,836
- Language: Welsh
- Closing Date: 05 March, 2026 12:00 AM
Apply Now (EN)
You will be taken to an external page to complete your application.
Salary: L18 £79,288 i L24 £91,836
Pennaeth - YGG AberdarCyflog: L18 £79,288 i L24 £91,836
Dechrau: 01/09/2026
Nifer ar y Gofrestr: 408
Mae Corff Llywodraethu Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdâr yn awyddus i benodi Pennaeth ysbrydoledig a blaengar er mwyn helpu'r Corff Llywodraethu i symud yr Ysgol yn ei blaen.
Rydyn ni'n falch o'r amgylchedd meithringar, croesawgar a chyfeillgar rydyn ni wedi'i greu, ac rydyn ni'n awyddus i sicrhau ymdeimlad o gymuned wrth i ni dyfu. Mae staff yr Ysgol yn dangos brwdfrydedd ac ymrwymiad drwy gydweithio'n dda, sy'n arwain at ganlyniadau da a phrofiad cadarnhaol a dymunol ar gyfer ein disgyblion.
Rydyn ni'n chwilio am Bennaeth sy'n:
- Ymroi i ragoriaeth mewn addysg;
- meddyliwr strategol â gweledigaeth glir ar gyfer llwyddiant parhaus sy'n cydweithio'n agos ac yn effeithiol â chorff llywodraethu'r ysgol;
- Gweithiwr proffesiynol gyda phrofiad o fedrau arwain, rheoli a rhyngbersonol;
- Arweinydd sy'n ysbrydoli, yn cymell ac yn grymuso pobl eraill;
- Hybu'r Gymraeg a'i diwylliant yn yr ysgol a'r gymuned ehangach;
- Dal disgwyliadau uchel o bawb, drwy ymrwymo i ddarparu addysg ragorol a chodi dyheadau pob plentyn;
- Cyfathrebwr ardderchog a fydd yn ysbrydoli plant, rhieni a staff fel ei gilydd;
- Barod i ymrwymo i feithrin cydberthnasau sy'n bodoli eisoes gyda'n teuluoedd a'r gymuned ehangach ymhellach;
- Barod i ymrwymo'n gryf i weithio mewn partneriaeth â staff, llywodraethwyr, rhieni a'r gymuned ehangach.
- Hyrwyddo ethos ysgol gyfan cynhwysol a meithringar ac yn grymuso staff i ddiwallu anghenion pob disgybl.
Mae modd i ni gynnig:-
- Tîm addysgu a chymorth talentog, angerddol a chydlynol sy'n arloesol ac yn hawdd mynd atynt, gan ddod ag ymrwymiad cadarnhaol a phroffesiynol i newid a gwelliant parhaus.
- Disgyblion gofalgar a brwdfrydig sy'n falch o wreiddiau eu Cymoedd ac yn chwilfrydig am y byd y tu hwnt.
- Corff llywodraethu ymroddgar a chefnogol, sy'n ymroi i weithio mewn partneriaeth i gyflawni'r gorau ar gyfer ein holl blant.
Dyma gyfle cyffrous i’r person iawn fynd â’n hysgol i’r cam nesaf yn ei datblygiad.
Mae modd cael gafael ar ffurflenni cais a manylion pellach yn Chwilio am Swyddi (webitrent.com)
** CYFARWYDDIADAU ETEACH YN UNIG **
Os ydych chi'n gweithio i Gyngor Rhondda Cynon Taf ar hyn o bryd, gwnewch gais am y swydd drwy eich cyfrif hunanwasanaeth i weithwyr, ac nid drwy'r ddolen. Os oes gennych chi unrhyw broblemau o ran cyrchu'ch cyfrif Hunanwasanaeth i Weithwyr, cysylltwch â charfan gweinyddu iTrent ar 01443 680760 neu Gweinydduitrent@rctcbc.gov.uk
Os oes gyda chi unrhyw ymholiadau ynghylch y broses ymgeisio, ffoniwch Jo Thomas ar y rhif ffôn canlynol: (01443) 444526 neu e-bostiwch Joanne.Thomas @rctcbc.gov.uk
Y dyddiad olaf ar gyfer ceisiadau yw 5 Mawrth 2026 am 12:00pm (canol dydd).
MAE AMDDIFFYN PLANT AC OEDOLION AGORED I NIWED YN GYFRIFOLDEB CRAIDD I'R YSGOL A'R CYNGOR. YN OGYSTAL Â'R CYFRIFOLDEB YMA MEWN PERTHYNAS Â DIOGELU, BYDD Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD YN YMCHWILIO'N FANWL I GEFNDIR YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS HEFYD.
Mae'r Cyngor a'r Ysgol yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.