THE DETAILS:
  • Location: Aberystwyth,
  • Hours: Full time
  • Contract: Permanent
  • Salary Type: Annual
  • Salary: 62,612 - 72,579 *
  • Language: Welsh
  • Closing Date: 01 March, 2026 12:00 AM
Apply Now (CY)

Apply Now (EN)

You will be taken to an external page to complete your application.

Headteacher - Llanilar Primary School

Ceredigion County Council

Salary: 62,612 - 72,579 *

About the role
The following is an advert where the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential.

"Gwneud eich gorau sydd orau bob tro"

Croeso i Ysgol Llanilar - Gwyliwch y fideo

Ydych chi'n arweinydd ysbrydoledig sy'n chwilio am ysgol hapus, cartrefol a llwyddiannus yng nghalon Ceredigion?

Mae Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Gymunedol Llanilar yn chwilio am Bennaeth newydd i arwain ein hysgol Gymraeg ffyniannus. Rydym yn chwilio am unigolyn sy'n barod i adeiladu ar y sylfeini cadarn sydd eisoes yn eu lle a pharhau i feithrin awyrgylch lle mae disgyblion yn ffynnu mewn Cymuned Cyfeillgar, Teuluol a Hapus.

Amdanom ni

Yn ôl adroddiad Estyn diweddaraf (Mehefin 2025), mae Ysgol Llanilar yn ysgol lle mae "arweinyddiaeth ysbrydoledig... ynghyd â staff cydwybodol, yn meithrin lles, gofal a chymorth disgyblion yn hynod effeithiol" .

Yn Ysgol Gynradd Gymunedol Llanilar, rydym yn ymfalchïo mewn disgyblion sy'n arddangos ymddygiad da ac annibyniaeth yn eu dysgu. Mae llais y plentyn yn ganolog i'n hethos, gyda grwpiau 'Lleisiau Ilar' yn chwarae rhan greiddiol wrth ddylanwadu ar bopeth o welliannau cymunedol i weithgareddau lles, sy'n cael eu cyfoethogi ymhellach gan ddefnydd gwerthfawr o'n hardaloedd awyr agored. Cefnogir yr ysgol gan Gorff Llywodraethol cydwybodol sy'n adnabod ein cryfderau yn drylwyr ac yn barod i weithio mewn partneriaeth â'r Pennaeth newydd i gynnal llwyddiant parhaus.

Y Person Delfrydol

Rydym yn chwilio am arweinydd sydd â'r weledigaeth i gynnal safonau uchel o addysgu a dysgu, gan sicrhau bod lles a gofal disgyblion yn parhau i gael eu meithrin yn hynod effeithiol. Byddwch yn sicrhau bod profiadau dysgu yn parhau i ennyn diddordeb, tra'n ymateb i argymhelliad diweddar Estyn. Ochr yn ochr â hyn, byddwch yn cynnal y berthynas gadarnhaol gyda rhieni a'r gymuned, ac yn sicrhau parhad y gefnogaeth fwriadol sy'n galluogi disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) i wneud cynnydd cryf.

Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus gael
  • gwybodaeth a phrofiad perthnasol o gyflwyno addysgu a dysgu rhagorol
  • dealltwriaeth o fethodolegau addysgeg effeithiol
  • gwybodaeth gadarn o strategaethau asesu disgyblion effeithiol
  • dealltwriaeth o ddatblygiadau cyfredol a datblygiadau i ddod mewn addysg Gymraeg
  • y gallu i ddatblygu a rheoli tîm sy'n perfformio'n dda gan sicrhau datblygiad proffesiynol staff trwy brosesau rheoli perfformiad effeithiol
  • gweledigaeth glir o ddatblygu strategaeth gan gynnwys gweithredu a gwerthuso
  • gwybodaeth ymarferol o reoli cyllidebau'n effeithiol
  • profiad o gynllunio'r cwricwlwm a dyrannu adnoddau
  • y gallu i ddatblygu perthynas gref a chefnogol gyda staff, disgyblion, rhieni, Llywodraethwyr, y Cyngor Sir, y gymuned leol, a chyrff eraill.

Mae'r hysbyseb hon ar gyfer Pennaeth lle mae'r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol.

Yn ogystal â'r gofynion hyn, mae'r ysgol a'r Llywodraethwyr yn rhoi pwys arbennig fod gan yr ymgeisydd
  • Ddisgwyliadau uchel ohonynt eu hunain ac eraill o fewn lleoliad yr ysgol a chymuned ehangach Llanilar
  • Gweledigaeth glir ar gyfer dyfodol yr ysgol sy'n ysbrydoli staff, rhieni a disgyblion fel ei gilydd
  • Arweiniad rhagorol sy'n tynnu ar ac yn atgyfnerthu arbenigedd staff eraill
  • Y gallu i ddarparu amgylchedd gofalgar, parchus a chynhwysol i bawb
  • Y gallu i annog disgyblion i gofleidio'r diwylliant a'r iaith Gymraeg yn llawn ac i annog rhieni i gefnogi'r Gymraeg adref
  • Y gallu i sicrhau bod yr ysgol yn helpu pob disgybl i ddatblygu dysgu annibynnol ac i fod yn barod ar gyfer y byd y tu allan i'r ysgol
  • Y gallu i barhau i ddatblygu cysylltiadau cryf rhwng yr ysgol a'r gymuned leol
  • Yr awydd i fod yn agored i syniadau ac arbenigedd newydd o fewn a thu allan i'r ysgol
  • Profiad a'r gallu i reoli newid yn effeithiol

Manyleb Person

Sut i Ymgeisio

Ar hyn o bryd mae gan y Pennaeth ymrwymiad addysgu dau ddiwrnod yr wythnos.

Mae croeso i ymgeiswyr sy'n dymuno ymweld â'r ysgol cyn gwneud cais, gellir gwneud hynny drwy gysylltu â Lowri Steffan ar lowristeffan@hotmail.comi drefnu ymweliad.

Am ragor o wybodaeth am y swydd hon, cysylltwch âg Alwyn Ward Ymgynghorydd Cefnogi Ysgolion, ar 07398 250989 neu alwyn.ward@ceredigion.gov.uk

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd 1/3/26 a chynhelir cyfweliadau ar ddydd 10/3/26.

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymoi ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiadhwn,maerhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

What we offer

Work-life balance

Lifestyle savings scheme

Generous employer pension scheme

Cycle to work scheme

Learning and development

Where you'll work

Schools and Culture
We offer appropriate challenge and support to our schools, to help them deliver first class education to all pupils, across the age and ability range. Our primary functions are as follows:
  • School Improvement: Leadership; Support and Challenge, Teaching and Learning; Digital Literacy; Literacy and Numeracy; Welsh in Education
  • Additional Learning Needs: Provision for pupils with Additional Learning Needs, Inclusion; Attendance; Educational Psychology
  • Pupil Wellbeing:Counselling; Welfare; Anti-Bullying, Pupil Voice
  • Education Governance: Data ; Governor Support, Policy support
  • School Admissions
  • Culture: Music Service; Cered; Felinfach Theatre; Museum
  • Infrastructure and Resources: Planning School Places; Modernisation and Twenty First Century Schools Programme; Buildings; Grants
  • Catering: Day Centres; Primary Schools; Residential homes.
  • Childcare Unit: Childcare Sufficiency Assessment; Childcare & Play Grant; Childcare Offer; Out of School (After School Clubs and Holiday Playschemes); Day Nursery, Cylch/Playgroup & Childminder business support and staff training
Aberystwyth Aberystwyth is a lively university town, seaside resort complete with promenade and pier, and thesetting of atmospheric TV drama Hinterland.
Read more